Amodau Dan Draed
Amser: Ar y copa tua 1000
Eira uwchben: dim eira ar y llwybrau
Llwybr a gymerwyd: llwybr y PyG
Adroddiad nesaf: Dydd Mawrth 25-3-2025
Amodau
Ni welwyd unrhyw eira na rhew o gwbl ar y llwybrau heddiw, a dim ond ambell i glwt eira prin oedd yn bodoli ar y mynydd.
Diwrnod a gychwynodd gydag ysbeidiau heulog, ond yn cymylu at ganol dydd, gydag awel gref ar y copa, ac ambell i gyfnod lle’r oedd hi yn trio pigo bwrw.
Offer hanfodol
Offer cerdded addas tymhorol, yn cynnwys goleuadau (fel lamp pen neu ddwy).
Gwybodaeth Ychwanegol
Ar ddydd Gwener yr adroddiad mae'r rhagolygon yn awgrymu y bydd y tymheredd ar y copa uwchben y rhewbwynt drwy gydol y cyfnod hyd nes yr adroddiad nesaf dydd Mawrth. Mae darogan y bydd y tymheredd ar y copa cyn ised â 1˚C, gan deimlo cyn ised â -4˚C ar adegau.
Nid oes darogan am eira na rhew yn y rhagolygon ar ddydd yr adroddiad. Er hyn mae’r tymheredd yn agos i’r rhewbwynt ar adegau at ddechrau’r wythnos, a mae hi yn bwysig cadw llygaid ar y rhagolygon diweddaraf rhag i’r posibilrwydd o rewi ail ymddangos.



