Y Diweddaraf

Y rhagolygon tywydd ac amodau dan draed diweddaraf ar gyfer Yr Wyddfa.

Cliciwch ar bocs i weld mwy o fanylion
Snowflake Icon

Amodau Dan Draed

Adroddwyd Dydd Gwener, Mawrth 28, 2025

Amser: Ar y copa tua 1100
Eira uwchben: dim eira ar y llwybrau
Llwybr a gymerwyd: llwybr y PyG
Adroddiad nesaf: Dydd Mawrth 1-4-2025

Chwa o oerfel 28-3-2025

Amodau
Ni welwyd unrhyw eira ar y mynydd heddiw. Er nad oedd yn effeithio cerdded y llwybr o gwbl, roedd barrug rhewllyd wedi dechrau ffurfio ar rannau o'r mynydd yn agos i'r copa.

Diwrnod cymylog, gyda cyfnodau brafiach, a gwynt cymedrol ond oer iawn. Cafwyd un gawod fer ysgafn yn ystod yr arsylwadau, a oedd yn disgyn fel cymysgedd o genllysg ac eirlaw ar adegau.

Offer hanfodol
Offer cerdded addas tymhorol, yn cynnwys goleuadau (fel lamp pen neu ddwy).

Gall cario pigau bach i'r traed gynnig dewisiadau i gadw'n ddiogel rhag dod ar draws amodau gaeafol ar y mynydd (gweler Gwybodaeth Ychwanegol isod).

Gwybodaeth Ychwanegol
Ar ddydd Gwener yr adroddiad mae'r rhagolygon yn awgrymu y bydd y tymheredd ar y copa o dan y rhewbwynt i ddechrau ac wedyn yn codi uwchben y rhewbwynt am y rhan fwyaf o'r cyfnod hyd nes yr adroddiad nesaf dydd Mawrth. Mae darogan y bydd y tymheredd ar y copa cyn ised â -1˚C, gan deimlo cyn ised â -10˚C ar adegau.

Mae'r rhagolygon yn awgrymu fod posibilrwydd o rywfaint o eira yn gynnar yn y cyfnod, ac yn debygol o rewi yn rhai llefydd yn uwch ar y mynydd heno (nos Wener) ac i mewn i fore Sadwrn. Gyda gwynt a glaw yn datblygu bnawn Sadwrn, mae unrhyw amodau gaeafol allai ddatblygu erbyn y bore yn debygol o ddadmer . Mae unrhyw amodau gaeafol yn ymddangos yn llai tebygol wedi hyn, ond mae'r tymheredd yn isel ar adegau ac mae hi dal werth cadw golwg ar y rhagolygon diweddaraf.

Rhagolwg

4  Peryglon
Heddiw, Sad
Gwyntoedd cryfion
Effaith oeri difrifol
Gwelededd Gwael
Gwyntoedd grym storm

Tymheredd

Copa: 0°C
Llanberis: 9°C

Machlud

18:45
Heddiw, Sad
Tywyllu mewn 7 awr a 9 munud

Caffi'r copa

Ar gau
Dros y gaeaf

Mentra'n Gall

Gofynnwch 3 chwestiwn i’ch hynan cyn i chi gychwyn:

  • Ydw i’n hyderus fod gen i’r wybodaeth a’r sgilliau ar gyfer y diwrnod?
  • Oes gen i’r offer cywir?
  • Ydw i’n gwybod sut fydd y tywydd?

Ymweld ag AdventureSmart Cymru i ddod o hyd i'r atebion y mae angen i chi fod yr offer cywir a gwybod sut i fod yn ddiogel!

YrWyddfaFyw ar eich gwefan??

Gallwch osod rhagolygon Yr Wyddfa Fyw yn hawdd ar unrhyw wefan.
Sut i osod Yr Wyddfa Fyw ar eich gwefan