Amodau Dan Draed
Amser: Ar y copa tua 1300
Eira uwchben: 250m
Llwybr a gymerwyd: Llwybr Llanberis a llwybr y PyG
Adroddiad nesaf: Dydd Gwener 22-11-2024
Amodau
Roedd hi yn bwrw eira ar bob uchder ar ddechrau arsylwadau heddiw, roedd eira yn gorwedd ar y tir uwchben tua 250m, ac yn gorwedd ar y llwybr uwchben tua 300m.
Y prif anhawster ar y mynydd heddiw oedd ardaloedd o rew ar y llwybr, gyda haen denau o rew tenau caled ar draws y llwybr mewn rhai mannau, a rhew mwy trwchus wedi ffurfio wrth i eira gwlyb rewi mewn mannau eraill. Roedd yr ardaloedd rhewllyd yma yn mynd a dod ar hyd y llwybr, gyda rhai ardaloedd rhewllyd mor isel â 400m ac eraill yn uwch ar y mynydd, rhai yn nes at y copa.
Roedd yr eira yn gyffredinol denau lle oedd yn gorwedd, wedi disgyn dan ddylanwad gwynt sylweddol o'r gogledd-ddwyrain. Roedd rhai ardaloedd lle'r oedd yr eira wedi lluwchio a chasglu yn ddyfnach, gan lenwi'r llwybr. Roedd y lluwchfeydd yma wedi ei ffurfio o eira meddal gyda chramen wynt (wind slab), ond yn gyffredinol nid oedd yn ffurfio ardaloedd eang o luwchfeydd.
Diwrnod cymylog gydag eira yn disgyn i ddechrau, ac yn clirio yn y prynhawn, gyda gwyntoedd oer.
Offer hanfodol
Offer cerdded addas tymhorol, yn cynnwys goleuadau (fel lamp pen).
Bydd cario caib rew a rhyw fath o bigau i'r traed yn rhoi dewisiadau i gadw'n ddiogel ar y mynydd ar ardaloedd o rew ac eira. Bydd cario crafangau cerdded (crampons) yn cynnig dewis mwy diogel wrth ddod ar draws ardaloedd annisgwyl o amodau anoddach.
Bydd cario gogls eira (fel gogls sgïo) yn rhoi modd i warchod y llygaid rhag gwyntoedd oer ac eira yn lluwchio, gan ei gwneud yn rhwyddach i weld er mwyn teithio yn fwy diogel ar y mynydd.
Gwybodaeth Ychwanegol
Ar ddydd Mawrth yr adroddiad mae'r rhagolygon yn awgrymu y bydd y tymheredd o dan y rhewbwynt ar draws ardaloedd eang o'r mynydd, gyda'r tymheredd cyn ised â -5˚C (gan deimlo cyn ised â -14˚C). Mae darogan hefyd am gawodydd eira, rhai o'r rhai yn drwm, a chyfnodau cliriach ar adegau. Bydd gwynt sylweddol hefyd ar adegau.
Golyga hyn bod amodau gynyddol aeafol yn debygol o ddatblygu yn y dyddiau i ddod, gyda posibilrwydd o fwy o eira, ac ardaloedd gynyddol rewllyd yn datblygu ar draws ardaloedd eang o'r mynydd.