Amodau
Roedd eira yn gorwedd ar y mynydd uwchben tua 250m heddiw, gan orchuddio y llwybrau ar draws rhan helaeth o'r mynydd uwchben hyn.
Gwelwyd haen o eira rhewllyd hŷn ar draws ardaloedd eang o'r mynydd, wedi ei orchuddio gyda haen o eira meddal yn rhai llefydd. Roedd yr eira meddal wedi bod yn cael ei symud dan ddylanwad y gwynt dwyreiniol. Roedd eira yn gorwedd ar rannau o lethrau yn gwynebu'r gorllewin o'r herwydd, ond roedd dylanwad y gwynt gorllewinol sydd wedi bod yn bresennol drwy'r wythnos hefyd i'w weld, gydag eira gwahanol yn gorwedd ar lethrau yn gwynebu nifer o wahanol gyfeiriadau.
Gwelwyd eira amrywiol mewn gwahanol fannau, gyda chramen wynt (windslab) yn ffurfio yn rhai llefydd, gyda chramen feddal a chaletach wedi ei gweld.
Roedd nifer o ardaloedd o eira hŷn caled a rhewllyd, a gwelwyd nifer o ardaloedd o rew caled hefyd ar y mynydd, mewn amrywiaeth o lefydd ar bob uchder.
Gwelwyd tystiolaeth o luwchio ar wyntoedd gorllewinol a dwyreiniol, a bod yr eira yn bargodi (cornicing) mewn nifer o fannau. Yn benodol gwelwyd bargod (cornice) sylweddol ar ben llwybrau y mwynwyr a'r PyG ym Mwlch Glas (gweler lluniau). Roedd y llwybrau yma yn serth ac yn gul iawn wrth nesáu at Fwlch Glas.
Diwrnod braf, gan fod yn fwy cymylog ar adegau, gydag awel ddwyreiniol gref ar o bryd i'w gilydd.
Offer hanfodol
Offer cerdded addas tymhorol, yn cynnwys goleuadau (fel lamp pen neu ddwy).
Bydd cario gogls eira (fel gogls sgïo) yn rhoi modd i warchod y llygaid rhag gwyntoedd oer ac eira yn lluwchio, gan ei gwneud yn rhwyddach i weld er mwyn teithio yn fwy diogel ar y mynydd.
Bydd cario caib rew a chrafangau cerdded (crampons) yn rhoi dewisiadau i gadw'n ddiogel ar y mynydd.
Gwybodaeth Ychwanegol
Ar ddydd Gwener yr adroddiad mae'r rhagolygon yn awgrymu y bydd amodau yn aros yn aeafol ac yn datblygu dros y cyfnod hyd nes yr adroddiad nesaf ddydd Mawrth. Mae darogan y bydd y tymheredd ar y copa yn aros dan y rhewbwynt dros y penwythnos, gan ddechrau dadmer ar bob uchder o ddydd Llun ymlaen. Bydd y dadmer yn dechrau yn gynt ar uchderau is. Mae darogan i'r tymheredd ar y copa fod cyn ised â -4˚C, gan deimlo cyn ised â -14˚C ar adegau.
Mae darogan am gawodydd ar adegau, felly mae rhywfaint o eira newydd yn bosib. Mae'r rhagolygon yn awgrymu bydd gwyntoedd amrywiol, gan fod yn sylweddol ar adegau, gyda'r cyfeiriad yn newid o fod yn ddwyreiniol, i fod yn fwy deheuol. Golyga hyn y gall bod newid yn y llethrau mae eira yn dueddol o orwedd arnynt.
Mae cyfnodau o welededd gwael iawn yn bosib o hyd, yn enwedig ar gyfnodau cymylog neu gawodlyd. Gall y llwybrau ddiflannu mewn cyfnodau o'r fath, ac ôl traed lenwi.
Wrth i'r tymheredd godi, bydd yn dechrau teimlo yn llai gaeafol, ond mae amodau dan draed yn debygol o barhau yn aeafol iawn, gyda peryglon gaeafol yn parhau, os nad yn mynd yn fwy llithrig a difrifol wrth i leithder y dadmer wneud pethau yn fwy lletchwith.